Swyddi Addysgu yn Abertawe a’r De-Orllewin

Lleolir swyddfa New Directions Addysg Abertawe yng Nghanol Dinas Abertawe, ger Canolfan boblogaidd Dylan Thomas, nid nepell o Farina Abertawe. Mae’r tîm o ymgynghorwyr profiadol yn gweithio ar draws y rhanbarth yn recriwtio staff ar gyfer y sector addysg. Yn ogystal â darparu gwasanaeth recriwtio proffesiynol, mae New Directions Addysg hefyd yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus ein cleientiaid a’n hymgeiswyr.
Mae’r swyddfa yn Abertawe yn recriwtio ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) o waith byrdymor i waith cyflenwi hirdymor. Drwy weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, rydym yn darparu’r ateb cywir y tro cyntaf.
Mae New Directions yn aelod o is-adran addysg y Conffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth ac un o gyrff ambarél y gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Rydym yn cwmpasu’r ardaloedd canlynol: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Rydym yn recriwtio ar gyfer y swyddi canlynol: Athrawon Cymwysedig, Cynorthwywyr Cymorth Dysgu, Athrawon Newydd Gymhwyso, Cynorthwywyr Addysgu, Goruchwylwyr Cyflenwi a Staff Ategol.
Ffeithiau Cyflym
- Swyddfa Abertawe oedd ail swyddfa New Directions i gael ei hagor yng Nghymru ac mae wedi bod yn gweithredu ers deng mlynedd.
- Mae cangen New Directions Abertawe wedi cofrestru 4037 o ymgeiswyr ers iddi agor.
- Mae cangen New Directions Abertawe wedi llenwi 36,108 o leoliadau ers iddi agor.
- Mewn arolwg boddhad diweddar, dywedodd 87% o ymgeiswyr New Directions y byddent yn argymell New Directions Addysg i’w cydweithwyr proffesiynol.
Alisha Bird – Rheolwr y Gangen
Yn y swyddfa yn Abertawe, rydym yn cwmpasu rhanbarth De-orllewin Cymru. Rydym yn darparu gwasanaeth dwyieithog ac yn barod i weithio gyda phob ysgol a choleg yn yr ardal. Mae cefnogi’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt yn bwysig i ni. Dyna pam bod ein tîm yn adlewyrchu’r cleientiaid a’r ymgeiswyr rydym yn gweithio gyda hwy ac sy’n ein helpu i ddarparu’r gwasanaeth cywir y tro cyntaf.
Sut i ddod o hyd i ni
- SwyddfaAbertawe :
- New Directions Education Ltd
5 Prospect Place
Abertawe
SA1 1QP - Ffôn: 01792 620180Ffacs: 01792 620181Ebost: [email protected]
- Teithio
- Yn y car: NCP ar York Street, SA1 3LZ
- Ar y trên: Gorsaf Abertawe
- Gwybodaeth am Deithio: Traveline Cymru